01
Mae’r Dreamachine yn brofiad ymgolli ar eich eistedd gyda cherddoriaeth a golau, wedi’i gynllunio i’w fwynhau gyda’ch llygaid ar gau. Byddwch yn eistedd yn gyfforddus drwy gydol y profiad.
Mae dwy fersiwn o’r profiad Dreamachine: I’r Holl Synhwyrau a Gwrando Dwfn.
Mae’r profiad i’r Holl Synhwyrau yn cynnwys goleuadau llachar sy’n fflachio’n gyflym, a elwir yn oleuadau strôb, a cherddoriaeth uchel. I lawer o bobl bydd effeithiau’r goleuadau a’r gerddoriaeth yn cynhyrchu delweddau lliwgar, caleidosgopig y tu ôl i’ch llygaid cau. Mae’r profiad yn cynnwys sain amgylchynol 360 gradd, ac mae wedi’i gynllunio i fod yn daith fewnol bleserus a all fod yn hamddenol ac yn gyffrous.
Nid yw’r profiad i’r Holl Synhwyrau yn addas i bobl feichiog na rhai pobl ag epilepsi neu sensitifrwydd posibl arall i oleuadau sy’n fflachio’n gyflym a synau uchel. Os oes unrhyw fath o’r sensitifrwydd hyn arnoch chi, rydym yn awgrymu eich bod yn ystyried trefnu profiad Gwrando Dwfn.
Mae profiad Gwrando Dwfn Dreamachine yn brofiad ymgolli mewn sain amgylchynol 360 gradd gyda goleuadau ysgafn nad ydynt yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio’n gyflym. Mae wedi’i gynllunio i wneud y profiad mor hygyrch â phosibl i’r rhai a allai fod â sensitifrwydd i oleuadau strôb neu amgylcheddau sy’n ysgogi’r holl synhwyrau.
Ar ôl y naill brofiad Dreamachine neu’r llall, cewch eich gwahodd i dreulio amser yn ein Man Myfyrio rhyngweithiol yn y lleoliad, lle bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol neu fyfyriol yn unigol a gydag eraill.