30
Mae epilepsi yn gyflwr cymharol gyffredin sy’n effeithio ar yr ymennydd. Mae gan dros 600,000 o bobl yn y DU epilepsi, sef un o bob 100 o bobl. Mae tua 60 miliwn o bobl ag epilepsi yn y byd. Gall hyd at 3% o bobl ag epilepsi gael trawiadau sy’n cael eu sbarduno, yn enwedig i rai dan 18 oed, gan oleuadau sy’n fflachio (a elwir yn epilepsi ffotosensitif).
Mae llawer o fythau a chamsyniadau ynghylch epilepsi ac epilepsi ffotosensitif, ac mae’r cyflwr yn dal i fod yn faes ymchwil gweithredol a pharhaus. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl ag epilepsi yn cael trawiadau sy’n cael eu sbarduno gan oleuadau sy’n fflachio, ond mae cyngor gan ymgynghorwyr arbenigol yn dangos y gallai’r cyfuniad o effeithiau a ddefnyddir ym mhrofiad i’r Holl Synhwyrau Dreamachine fod â’r potensial i sbarduno trawiad i rai pobl ag epilepsi, ac yn bwysig, bod y risg o ymateb andwyol yn cynyddu os oes gennych epilepsi. Felly, er mwyn diogelu lles ein hymwelwyr a’n staff, dim ond oedolion nad oes ganddyn nhw epilepsi nac unrhyw sensitifrwydd hysbys i oleuadau sy’n fflachio, synau uchel neu amgylcheddau sy’n ysgogi’r holl synhwyrau yr ydym yn eu derbyn.
Rydym yn parhau i ymgynghori â chynghorwyr epilepsi, gan gynnwys arbenigwyr o UCL a Chanolfan Feddygol Prifysgol Stanford, i gynllunio a darparu profiad Dreamachine. Gan fod y prosiect yn un o’r enghreifftiau cyntaf i brofiad o’r math hwn gael ei wireddu ar y raddfa hon, rydym yn cymryd yr holl ragofalon angenrheidiol i gynorthwyo ein hymwelwyr a’n staff. Mae Dreamachine yn cynnig cyfle i ymchwilio a thrafod epilepsi ymhellach, ac os hoffech gysylltu â ni i drafod hyn, cysylltwch â ni.
Rydym wedi cynllunio dau brofiad ychwanegol i wneud y Dreamachine mor hygyrch â phosibl, ac i sicrhau bod y rhai ag epilepsi yn gallu cymryd rhan a mwynhau’r profiad. Mae profiad Gwrando Dwfn Dreamachine yn brofiad ymgolli mewn sain amgylchynol 360 gradd, gyda goleuadau ysgafn nad ydynt yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio’n gyflym. Mae wedi’i gynllunio a’i ddatblygu i sicrhau bod Dreamachine mor hygyrch â phosibl i’r rhai a allai fod â sensitifrwydd i oleuadau strôb neu amgylcheddau sy’n ysgogi’r holl synhwyrau. Mae profiad Gwrando Dwfn Dreamachine wedi’i gynllunio a’i ddatblygu gan yr un tîm creadigol, a gyda’r un trylwyredd ac uniondeb artistig â’r profiad i’r Holl Synhwyrau y Dreamachine.
Mae holl brofiadau Dreamachine ar gael fel profiad Hamddenol hefyd. Mae hyn yn golygu agwedd hamddenol at sŵn a symud, lle mae gennych ryddid i fynd i mewn a gadael y profiad byw pan fo angen. Mae hyn yn addas ar gyfer unrhyw un a fyddai’n elwa ar brofiad mwy anffurfiol.